Datblygu Cyrchfannau i Dwristiaid yn y Deyrnas Unedig

MPA 1.1 Datblygu Cyrchfannau Twristiaeth y DU

Nodweddion eraill ar gyrchfannau

Mae angen amrywiaeth o gyfleusterau eraill ar dwristiaid heblaw atyniadau a llety. Y pwysicaf o’r rhain yw digwyddiadau a gwybodaeth.                                

Digwyddiadau

Gall digwyddiadau mawr ddenu llawer o dwristiaid i gyrchfannau. Gall digwyddiadau chwaraeon fel gemau pêl-droed neu rygbi pwysig ddenu llawer o filoedd o dwristiaid i gyrchfan. Mae digwyddiadau diwylliannol fel gwyliau a chyngherddau mawr hefyd yn gallu rhoi hwb i niferoedd y twristiaid. Er enghraifft, mae marchnadoedd Nadolig a digwyddiadau ‘gŵyl y gaeaf’ yn fwyfwy poblogaidd erbyn hyn mewn trefi a dinasoedd.        

Gweithgaredd 2

  • Awgrymwch pa broblemau y gallai twristiaid ddod ar eu traws os byddant ar goll mewn dinas y maent yn ymweld â hi.
  • Awgrymwch pa broblemau y gallai twristiaid ddod ar eu traws os byddant ar goll mewn cyrchfan gwledig.