Datblygu Cyrchfannau i Dwristiaid yn y Deyrnas Unedig

MPA 1.1 Datblygu Cyrchfannau Twristiaeth y DU

Cyrchfannau Arfordirol

Yn y Deyrnas Unedig, bu’r ardaloedd arfordirol yn gyrchfannau pwysig i dwristiaid ers oes Fictoria, pan ddaeth yn ffasiynol nofio yn nŵr y môr. Credwyd ar y pryd fod hyn yn cynnig nifer o fuddion iechyd. Gall y rhan fwyaf o’r cyrchfannau arfordirol yn y Deyrnas Unedig olrhain eu gwreiddiau i oes Fictoria. Byddai’r cyrchfannau hyn hefyd yn darparu ar gyfer gweithwyr o ddinasoedd diwydiannol a ymwelai â’r trefi hyn ar wibdeithiau ac yna am wyliau hwy.

Roedd Brighton yng Ngorllewin Sussex a Bournemouth yn Dorset ymhlith y trefi arfordirol cyntaf i ddatblygu’n gyrchfannau twristiaeth, ynghyd â Blackpool yng ngogledd-orllewin Lloegr a Scarborough ar arfordir Swydd Efrog. Mae’r lleoedd gwyliau hyn yn gyrchfannau twristiaeth ers 200 mlynedd a rhagor.

Ar wahân i’r prif leoedd gwyliau arfordirol, mae llawer o drefi a phentrefi ar hyd arfordir y Deyrnas Unedig wedi datblygu’n lleoedd gwyliau glan môr, er enghraifft Dinbych-y-pysgod yn ne Cymru, Llandudno yng ngogledd Cymru, Weston-Super-Mare yng Ngwlad yr Haf a Newquay yng Nghernyw. Gan amlaf, yn y trefi glan môr fel y rheini y soniwyd amdanynt, traeth tywodlyd yw un o’r prif atyniadau. Cyrhaeddai’r twristiaid cynnar ar drenau, arhosent mewn gwestyau a mathau eraill o lety yn agos i’r traeth a threulient lawer iawn o’u hamser yno. Yn ddiweddarach, mae twristiaid wedi dechrau mynnu mwy, ac maent yn chwilio am ystod ehangach o atyniadau, y bu’n rhaid i’r lleoedd gwyliau eu darparu.                           

Tua diwedd y 1930au, daeth gwersylloedd gwyliau Butlins â math newydd o dwristiaeth i’r lleoedd gwyliau arfordirol. Erbyn hyn, mae canolfannau gwyliau Butlins ar waith o hyd mewn tri lle gwyliau arfordirol, sef Minehead, Skegness a Bognor Regis.

I ffwrdd o’r prif leoedd gwyliau arfordirol a threfi glan môr, mae llawer o ardaloedd eraill o arfordir Prydain yn gyrchfannau twristiaeth pwysig. Mae nifer o Barciau Cenedlaethol, gan gynnwys Arfordir Penfro, Gweunydd Gogledd Swydd Efrog ac Exmoor yn cynnwys ardaloedd arfordirol ynddynt. Yn yr ardaloedd hyn, y prif atyniad yw’r golygfeydd ysblennydd o glogwyni, pentiroedd a baeau yn ogystal â’r traethau tywodlyd a’r anheddau bach digyffwrdd. Mae ardaloedd eraill o arfordir, i ffwrdd o’r Parciau Cenedlaethol, hefyd yn gyrchfannau twristiaeth pwysig. Byddai enghreifftiau’n cynnwys Penrhyn Gŵyr yn ne Cymru, arfordir gogledd Cernyw a gorllewin Dorset, sydd bellach yn Safle Treftadaeth y Byd.

Gweithgaredd 1

Mae’r darn uchod yn cyfeirio at:

  • 8 tref glan môr
  • 3 lleoliad canolfannau gwyliau Butlins
  • 3 pharc cenedlaethol arfordirol
  • 3 chyrchfan arfordirol pwysig arall   

Gan ddefnyddio atlas neu fap ar-lein, gosodwch gynifer o’r rhain ag y gallwch ar y map isod.