Mae amrywiaeth helaeth o fathau o lety ar gael i dwristiaid. Rhaid bod gan gyrchfannau twristiaid amrywiaeth o lety ar gael i fodloni anghenion gwahanol fathau o dwrist. Mae’r prif fathau o lety yn cynnwys:
- Gwestyau – gan ddibynnu ar radd y gwesty (5 seren, 4 seren ac ati) gall ystafell mewn gwesty gostio £200 neu fwy. Ar y cyfan, mae gwestyau’n codi tua £100 y noson am swper, gwely a brecwast. Efallai bydd gwestyau o ansawdd is yn codi tua £50.
- Tai llety a gwely a brecwast – nid ydynt yn darparu’r un amrywiaeth o gyfleusterau â gwestyau, ond mae yma lety cyffyrddus a chymharol rad o hyd.
- Mae hostelau, fel hostelau YHA, yn rhatach ac efallai bydd twristiaid ifanc yn eu defnyddio, fel bacpacwyr neu rai heb lawer o arian i’w wario.
- Daeth cadwyni o lety megis motel a ddarperir gan gwmnïau fel Travelodge a Premier Inn yn fwyfwy poblogaidd yn y blynyddoedd diwethaf.
- Mae gwersylloedd a pharciau carafanau yn ddewisiadau poblogaidd i deuluoedd sydd am gael gwyliau rhad mewn ardaloedd gwledig ac arfordirol.
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
- Word (.docx): U3-1.1-Adnodd6.docx