Wrth i chi fynd yn hŷn, gallwch wneud mwy o ddewisiadau o ran i ble ewch chi ar eich gwyliau, pa atyniadau yr ymwelwch â nhw a’r gweithgareddau twristiaeth y cymerwch ran ynddynt.
Gobeithio y gallwch fwynhau’ch gwyliau a chael llawer o hwyl yn ymweld â pharciau hamdden ac atyniadau eraill.
Ond ni allwch wir fwynhau eich hunain heb fod llond gwlad o bobl sy’n gweithio yn y diwydiant twristiaeth yn gwneud eu gwaith yn iawn a rhoi cymorth neu ‘wasanaeth’ i chi. Mae’r bobl hyn yn cynnwys trefnyddion teithiau, derbynyddion gwestai, gweithredwyr reidiau, tywysyddion teithiau, cynrychiolwyr gwestai a llawer mwy. Heb eu cymorth nhw, neu os na fyddant yn gwneud eu gwaith yn dda, mae’n ddigon posibl na chewch chi brofiad cystal â’r disgwyl o’r diwydiant twristiaeth.
Dyna yw hanfod yr uned hon.
Mae profiad y cwsmer yn eich helpu i ddeall y cefndir, o ran sut mae darparu gwasanaeth cwsmeriaid da yn helpu sefydliadau twristiaeth i roi profiad gwych i’w cwsmeriaid a bod yn llwyddiannus.
Wrth reswm, mae’n ddigon posibl y byddwch chi’n gweithio yn y diwydiant twristiaeth ymhen ychydig flynyddoedd yn darparu gwasanaeth i gwsmeriaid. Neu efallai y byddwch yn gweithio mewn ystod eang o ddiwydiannau eraill lle byddwch yn darparu gwasanaeth i gwsmeriaid mewn gwahanol sefyllfaoedd.
Yn y rhan gyntaf hon o’r uned, byddwch yn ymchwilio i rai o egwyddorion gwasanaeth cwsmeriaid. Pan fyddwch wedi astudio’r adran hon, bydd gofyn i chi lunio adroddiad i egluro sut gellir cymhwyso egwyddorion gwasanaeth cwsmeriaid i sefydliad twristiaeth a astudiwyd gennych.