Mae sefydliadau twristiaeth yn gyfrifol am iechyd a diogelwch eu cwsmeriaid. Maen nhw hefyd yn gyfrifol am eu cyflogeion. Mae miloedd o ddeddfau, rheolau a rheoliadau yn ymdrin â phob math o sefydliadau twristiaeth. Rhai enghreifftiau o reolau a rheoliadau fyddai:
- Lles anifeiliaid mewn sw a diogelwch ceidwaid sw a chwsmeriaid
- Diogelwch reidiau mewn parc hamdden
- Rheolau am ddiogelwch cwsmeriaid sy’n defnyddio pwll nofio mewn gwesty
- Rheoliadau am y gweithdrefnau diogelwch ar awyren.
Mae llawer o enghreifftiau eraill.
Un rhan o iechyd a diogelwch yw’r amrywiaeth o arwyddion y mae’n rhaid eu harddangos o gwmpas unrhyw sefydliad twristiaeth.
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
- Word (.docx): U1-1.1-Adnodd10.docx
- Powerpoint (.pptx): U1-1.1-Adnodd11.pptx