Llwyddo ym maes ‘Profiad y Cwsmer’

MPA 1.1 Egwyddorion gwasanaeth cwsmeriaid

Ymateb i adborth

Mae dulliau cyfathrebu modern a chyfryngau cymdeithasol wedi’i gwneud yn llawer haws i gwsmeriaid adolygu’r profiad a gawsant gan sefydliad twristiaeth.             

Mae dwy ffordd y gall sefydliadau twristiaeth gael gwybod am brofiad eu cwsmeriaid. Gallant holi barn y cwsmeriaid am y sefydliad, neu gallant edrych ar safleoedd adolygu fel Trip Advisor.                        

Yr hyn sy’n bwysig yw bod sefydliadau twristiaeth yn gwneud rhywbeth ynghylch sylwadau neu adborth negyddol, er mwyn sicrhau nad yw cwsmeriaid y dyfodol yn cael eu hannog i gadw draw. Hefyd, gallant ddefnyddio adborth cadarnhaol i hyrwyddo’r sefydliad neu wobrwyo eu staff.   

Gweithgaredd

Mae’r adolygiad yn y blwch isod yn real ac fe’i cymerwyd o adolygiadau o westy yn Llundain.

Darllenwch yr adolygiad ac awgrymwch ffyrdd y gallai perchenogion y gwesty ymateb i’r adborth negyddol.

Fydda i byth yn ysgrifennu adolygiadau ond rwyf am achub unrhyw un rhag aros yma! Mae’r lleoliad heb ei ail a, phetai ychydig o waith cynnal a chadw yn cael ei wneud, gallai’r lle hwn fod yn arbennig ... OND ... mae’n ofnadwy! Nid yw’r fflat deuluol uwchraddol gyda phatio yn addas at ddiben ac, yn fy marn i, ni ddylai gael ei defnyddio ar gyfer gwesteion.

Pan gyrhaeddais yr ystafell (ar y llawr uchaf, a neb yno i gynnig y ‘cymorth’ gyda bagiau a addawyd ar y wefan) roedd yr ystafell wedi’i pharatoi ond nid oedd yn lân. Pan geisiais ffonio’r rheolwr, dysgais nad oedd y ffôn yn gweithio (a oedd hefyd wedi’i hysbysebu ar y wefan ymhlith yr ‘amwynderau’). Felly, es i lawr tair rhes o risiau eto a chnocio ar ei drws. Cymerodd arni nad oedd yn fy neall ond dywedodd wrthyf y byddai’r ffonau’n cael eu trwsio ddydd Llun (dydd Sadwrn oedd hwn). Wrth gwrs, daeth dydd Llun heb neb i drwsio’r ffonau. Roedd y ffonau’n anweithredol drwy gydol yr wythnos yr arhosais yno. Roedd y gwasanaeth rhyngrwyd yn annibynadwy ar ei orau; am gryn dipyn o’r amser doedd gen i ddim rhyngrwyd o gwbl, a phan oedd yn gweithio roedd y gwasanaeth yn boenus o araf. Roedd y pâr yn yr ystafell gyferbyn â’m hystafell innau’n wyllt gacwn am fod angen y rhyngrwyd ar y gŵr i weithio. Gadawon nhw ar ôl diwrnod. Buaswn wedi gadael ond roeddwn i’n sâl yn Llundain heb ddigon o nerth i chwilio am westy newydd. Roedd nifer o westeion eraill y siaradais â hwy hefyd wedi penderfynu gadael yn gynnar. Byddwn yn cyfarfod â nhw wrth i mi grwydro o gwmpas y gwesty gyda fy nghyfrifiadur yn gwneud fy ngorau glas i geisio mynd ar-lein.

Pan gwynais, sgrechiwyd ataf yn llythrennol a dywedwyd wrthyf mai un drafferthus oeddwn a oedd yn ceisio cael gwyliau am ddim! Siaradais â dyn o’r enw David ar y ffôn a gofynnodd i mi pam oeddwn i mor lletchwith, cyn fy nghyhuddo o fod yn hiliol am fy mod wedi cwyno nad oedd y fenyw ar safle’r gwesty (nad oedd yno braidd byth, gyda llaw) yn siarad Saesneg yn ddigon da i gyfathrebu’n effeithiol. Dywedodd wrthyf fy mod yn torri’r gyfraith – fod hiliaeth yn anghyfreithlon yn Lloegr! Anghredadwy.

Eto, yr unig reswm i mi aros yno drwy’r wythnos oedd fy mod i’n teithio ar fy mhen fy hun ac yn rhy sâl i ddod o hyd i westy arall.

Da chi – peidiwch â mynd yn agos i’r gwesty hwn.