Llwyddo ym maes ‘Profiad y Cwsmer’

MPA 1.1 Egwyddorion gwasanaeth cwsmeriaid

Fideo - yr argraff gyntaf

Mae yna sawl achlysur ble mae’r rhyngweithiad rhwng gweithiwr i sefydliad twristiaeth a chwsmer yn cychwyn cyn i unrhyw eiriau gael eu trosglwyddo. Mae iaith y corff ac agwedd y gweithiwr yn rhan bwysig o sicrhau bod y cwsmer yn teimlo eu bod yn derbyn croeso.

Yr Argraff Gyntaf

Gwyliwch y 6 olygfa o dderbynnydd gwesty yn cyfarch cwsmer. Er nad oes cyfathrebu ar lafar, mae agwedd ac iaith y corff y derbynnydd yn newid o olygfa i olygfa.

Banc geiriau

Mae yna amrywiaeth o eiriau er mwyn disgrifio agwedd ac iaith y corff y derbynnydd isod.

  • Gwasanaethgar
  • Ffroenuchel
  • Didaro
  • Diflas
  • Gor-gyfeillgar
  • Haerllug
  • Croesawgar
  • Ymosodol
  • Destlus
  • Di-drefn

Gweithgaredd

Dewiswch y gair (neu eiriau) sy’n disgrifio agwedd ac iaith y corff y derbynnydd ym mhob un o’r 6 olygfa. Efallai feddyliwch am eiriau gwahanol i ddisgrifio iaith y corff y derbynnydd.

Does dim ateb cywir. Trafodwch eich atebion gyda’ch cyfoedion.